P-04-562 Caernarfon Heritage Centre – Correspondence from the Petitioner to the Committee, 19.11.14

 

Canolfan Etifeddiaeth  Caernarfon

 

Annwyl Bwyllgor

Hoffwn gynnig ychydig eiriau i’w ychwanegu at y cais am Ganolfan Etifeddiaeth i dref Caernarfon.

Mae'r dref hon yn haeddu canolfan i ddangos ein hanes, hanes y bobol, y diwydiant, yr iaith a’r celfyddydau mewn adeilad pwrpasol a deniadol o fewn tref Caernarfon a bod yn gartref i’r trysorau sydd wedi eu cymryd o’n Tref.

Gallai Ganolfan o’r fath fod yn gartref i geuriau o Gaer Rufeinig Segontium sydd yng Nghaerdydd.

Hefyd yn gartref i geuriau a gynigwyd i’r dref gan Arglwydd Newborough ac sydd bellach yn Amgueddfa’r Môr, Lerpwl.

Creiriau o Amgueddfa Mor Caernarfon sydd bellach wedi cau a’i droi yn doiledau!

Oriel luniau gan arlwynwyr, ffotograffwyr ac artistiaid eraill o’r dref. Yn Adeilad yr Institiwt (cartref Cyngor Tref Caernarfon) mae sawl canfas a ddylai cael ei dangos i’r byd e.e.

Mae' r llun Deffroad Cymru gan Christopher Williams yn cael ei gydnabod fel yr un mwyaf eiconig yng Nghymru ac mae'n portreadu Gwenllïan, ferch Owain Glyndŵr, yn codi i ryddid o afael draig goch ffyrnig. Ganwyd Christopher Williams ym Maesteg. Roedd ei dad, Evan Williams, yn benderfynol mai meddyg fyddai Christopher ond wrth ymweld ag Oriel Walker yn Lerpwl treuliodd rai oriau yn syllu ar lun “Perseus a Andromeda” gan Fredrick Leighton.

Ar ôl gadael yr Oriel gwyddai’r mab mai artist oedd am fod. Roedd Ddeffroad Cymru yn alegori cenedlaethol ac o werth personol i’r artist.

 

Ar gais Alun Ffred Jones (Arfon): ‘Faint o bobol ymwelodd â Chastell Caernarfon yn y blynyddoedd 2010-11, 2011-12 a beth yw ffigyrau eleni (WAQ65542)

John Griffiths: O ddechrau mis Ebrill 2010 i ddiwedd mis Awst 2013, daeth 679,889 o ymwelwyr i Gastell Caernarfon.

 

Mae’r cyfanswm fel a ganlyn:

01 Ebrill 2010 i 31 Mawrth 2011                                                 192,543 ymweliad

 

01 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012                                                  195,543 ymweliad

 

01 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2013                                                  177,275 ymweliad

 

01 Ebrill 2013 i 31 Mawrth 2013                                                 114,528 ymweliad

 

Nid wyf wedi cael ffigyrau 01 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2014 hyd yn hyn ond wrth siarad gydag aelodau o staff y Castell mae’n amlwg fod nifer mwy na’r ffigyrau uchod wedi ymweld â Chastell Caernarfon (byddaf yn ceisio cael ffigyrau eleni yn y dyddiau nesaf)

 

Mae cyfartaledd uchel o’r ymwelwyr yn aros yn y dref ac yn wastad yn gofyn ‘Lle mae’r Amgueddfa?’ Beth anodd iawn ac eithaf cywilyddus yw gorfod dweud nad oes Amgueddfa yn y dref ei hun.

 

Fel Tywysydd Teithiau o amgylch yr hen Dref rwy’n ymwybodol iawn o hanes ac etifeddiaeth Caernarfon ac mae’n loes i mi nad wyf yn gallu cyfeirio'r ymwelwyr yma i adeilad pwrpasol sy’n dangos a disgrifio'r Dref lawn h.y.

 

Caer Rufeinig Segontium - milltir o ganol y Dref

 

Y Dref Ganoloesol unigryw gyda llawer o drysorau y byddaf yn eu dangos ar fy nheithiau. Muriau’r Dref a’r angen i agor mwy o’r muriau i’r cyhoedd.

 

Capeli ac Eglwysi

Gallai crefydd fod yn elfen o’r Ganolfan e.e.

Tyfiant Methodistiaeth, mae sawl capel a fu’n arloesol yn nhyfiant Methodistiaeth a thystiolaeth bod John Wesley wedi aros yn y dref.

Capel Engedi a’i gysylltiad â’r Gymru a aeth i Batagonia.

Santes Fair - 14eg ganrif

Llanbeblig - 12fed ganrif

Llanfaglan - safle o’r 6ed ganrif - 2 filltir o ganol y Dref

 

Hanes:

Y Diwydiant Llechi, Doc Victoria, Hanes Ellen Edwards - Brodor o Fôn a merch Captain William Francis o Amlwch. Athro mathemateg a navigation yn Amlwch. Dilyn ei thad fel athro morwrol am 60 mlynedd tan ei marwolaeth yn 80 oed ym mis Tachwedd 1889. Roedd yn rhaid i’w disgyblion ieuainc deithio i Lerpwl neu Ddulyn i sefyll eu harholiadau ac roedd Ellen Edwards yn gweld hyn yn annheg iawn. Gan hynny mynnodd bod hawl gan y dynion i gael sefyll yr arholiadau yn lleol. Mae’n bur debyg iddi hyfforddi dros 1,000 o forwyr ifanc dros y blynyddoedd.

 

Argraffu (Caernarfon oedd Prifddinas yr Inc Cymraeg yn yr 19eg ganrif),

Yr Iaith Gymraeg  Mae dros 80% o drigolion Caernarfon yn siarad yr iaith Gymraeg a’r iaith yn fyw ym mhob rhan o fywyd diwylliannol, masnachol a chymdeithasol o’r dref. Mae’r Cofis yn enwog am ei ffraethineb a byddai cornel i son am yr eirfa unigryw yn werth ei gael.

 

Llety Arall mae bwriad i agor Llety Arall (wedi ei enwi ar ôl Gŵyl Arall) Gŵyl ddiwydiannol sy’n cael ei gynnal yng Nghaernarfon pob mis Gorffennaf ers rhai blynyddoedd bellach. Yn Stryd y Plas gobeithir lleoli Llety Arall a bydd yn ffordd o ddangos ein tref unigryw a fydd yn codi ein hyder a’n balchder ni ac ymwelwyr yn yr iaith Gymraeg

Fel Ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig Caernarfon rwyf wedi cael mynediad i seleri o amgylch yr hen Dref ac yma mae trysorau a all fod yn rhan o ymweliad a Chanolfan Etifeddiaeth. E.e.

Yn seleri Neuadd y Farchnad Stryd Twll yn y Wal a Stryd y Plas mae olion ‘Bonded Warehouse’ gydag ystafelloedd i gadw’r ddiod cyn ei symud fel arfer drwy dwneli o dan y dref. Ac yn Castle House Stryd Fawr a Stryd y Castell mae seleri a all ddyddio i’r 16eg ganrif gan ei gwneud yn Ganoloesol. Mae ffynnon a dan lawr swyddfa wag yn Stryd Twll yn y Wal.

Wrth sylweddoli bod Arddangosfa Etifeddiaeth fach yn Oriel Pendeitsh lle lleoli’r Ganolfan Dwristiaeth mae Canolfan llawer mwy ac eang yn ofynnol i dref Caernarfon.

 

Byrdwn hyn oll yw ceisio dangos cymaint sydd yw dangos i’r cyhoedd bod hwy yn lleol, yn ysgolion neu ymwelwyr bydd cael Canolfan Etifeddiaeth yng nghanol tref Caernarfon o werth i’r gymuned wrth ddenu gwirfoddolwyr i fod yno fel swyddogion, a rhoi hyder a pharch i’r hen dref anhygoel yma.

 

 

 

Yr eiddoch yn gywir

Emrys Llewelyn

Tywysydd Tref

07813142751

emrys@caernarfonwalks.com

www.drodre.co